Live in care

Gofal Byw i Mewn

Mae gofal byw i mewn yn galluogi llawer i bobl i ddal i fyw yng nghysur eu cartref eu hunain yn hytrach na chartref gofal ac fel arfer ar gost is. Rydym yn arbenigo mewn darparu gofal cartref i’r henoed a’r rheiny sydd â chyflyrau sydd angen gofal arbenigol.

Live in care agency, CheshireGallwn ddarparu gofalwyr a chwmni cadw tŷ i roi cefnogaeth gyson. Byddai’ch gofalwyr yn byw gyda chi a byddent yno nos a dydd, pryd bynnag rydych angen cymorth, gan roi tawelwch meddwl, diogelwch, ac yn bwysig iawn, cwmni a chyfeillgarwch.

Caiff ein gofalwyr eu dewis yn ofalus a’u hyfforddi, ac mae ganddynt brofiad mewn ystod eang o gyflyrau fel dementia, clefyd Alzheimer, MS, clefyd Parkinson ac edrych ar ôl y rheiny sydd wedi bod yn yr ysbyty yn dilyn codwm neu strôc.

Fel rheol mae gofalwyr byw i mewn yn cael eu cyflogi gan deuluoedd sy’n pryderu am ddiogelwch eu hanwyliaid ac sy’n credu fod angen rhywun i fod gyda nhw bob amser. Fel arfer, dyma pryd mae llawer o’r henoed yn symud i mewn i gartref gofal. Mae modd cadw pobl allan o gartref gofal ac aros gartref – ac fel arfer mae’n costio llai.

Ein gwasanaethau gofal cartref ar rota

Mae’n gwasanaeth gofal henoed ‘Rosy Rota’ wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus iawn ers nifer o flynyddoedd. Credwn ei fod yn arbennig ac unigryw. Byddwn yn eich cyflenwi â rota a ddewiswyd yn ofalus o ofalwyr henoed profiadol sy’n deall eich anghenion penodol ac a fydd yn gweithio gyda chi a’ch teulu i ddarparu’r union gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Pam dewis gofal byw i mewn?

Mae gofal byw i mewn yn opsiwn amgen i gartref gofal, ac nid dyma’r opsiwn drutaf fel y mae’r rhan fwyaf yn credu. Mae’n bwysig i lawer allu aros gartref – bod mewn amgylchedd cyfarwydd a gallu mwynhau eu gardd eu hunain, eu trugareddau, eu trefn ddyddiol a chadw unrhyw anifeiliaid anwes. Live in elderly care services

Mae gofal byw i mewn wedi’i deilwra i’r unigolyn sy’n golygu y gallwch gadw at eich amserlen, cael pobl i aros unrhyw bryd, aros yn eich cymuned a dewis eich prydau bwyd. Gall ein gofalwyr fynd â chi i apwyntiadau, i siopa neu i’ch hoff fannau lleol.

Rydym yn cymryd gofal mawr i osod y gofalwyr cywir gyda’n cleientiaid fel bod eich anwyliaid yn derbyn yr union ofal, dealltwriaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Client story: Alzheimer’s

We have been looking after this single lady since 2006. She has serious Alzheimer’s and mobility problems. She has her own private Housekeeper and our carer works in conjunction with her to ensure that she has around the clock care. Her niece and nephew are amazed that she is still alive and having a reasonable quality of life. They believe that this is down to the fact that she has had such good care from the same team of carers for so many years.

Client story: MS

This gentleman has been looked after by the agency since 2010. He has severe Muscular Sclerosis and is bed and wheelchair bound. Apart from his complicated care needs, he needs someone to be his companion, PA and life coach. Someone bubbly and motivated, he needs help with stimulation of the mind and getting a quality of life. His carers need to be persistent but gently persuasive especially when it comes to exercising, eating and getting out and about. He needs someone to be his memory but also encourage him to use his own. He needs someone who can identify what he is and isn’t capable of doing, in order to help him regain some independence. The family would like to keep track of his achievements no matter how small.

Ein rôl fel asiantaeth gofal byw i mewn

Mae eich diogelwch a’ch tawelwch meddwl o’r pwys mwyaf

Mae pob un o’n gofalwyr a’n cwmni cadw tŷ yn cael eu gwirio’n drylwyr yn unol â Chod Ymarfer UKHCA ac mae ganddynt ardystiad DBS cyfredol. Maent yn meddu ar y profiad, yr wybodaeth a’r cymwysterau i ofalu am oedolion bregus, gan gynnal urddas a pharch y cleient.

Yn dibynnu ar alluoedd a chymwysterau’r gofalwr, gallant gynnig gwahanol lefelau o ofal personol, rhoi meddyginiaeth a helpu gyda symud a thrafod. Gallant helpu i gadw tŷ, paratoi a chynnal deiet cytbwys a bod yn gwmni ac yn gefnogaeth i’ch holl ofynion.

Ein prif swyddogaeth fel asiantaeth gofal byw i mewn yw rhoi cefnogaeth gyson a dibynadwy i chi sy’n cael ei darparu gan deulu o ofalwyr sydd wrth eu bodd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun..

Wrth recriwtio rydym yn dilyn trefn drylwyr o wiriadau ac mae’n rhaid i’r gofalwyr ddarparu::

  • Manylion llawn eu profiad gwaith neu CV
  • Copïau o’u cymwysterau i gyd
  • O leiaf ddau eirda gan gyflogwyr diweddar
  • Dwy ffurf o adnabyddiaeth
  • Datgeliad DBS uwch cyfredol (Gwiriad yr Heddlu)

Mae pob geirda’n cael ei wirio’n ofalus a’i ddilysu gennym ni dros y ffôn gyda’r cyflogwyr blaenorol. Mae hyn yn caniatáu i ni ofyn mwy o gwestiynau a chael gwybodaeth ddyfnach am y gofalwr. Yna caiff y gofalwr gyfweliad gyda ni i sicrhau eu bod yn addas i’n cleientiaid.

Rydym yn asiantaeth gofal cartref wedi’n lleoli yn Llanfaelog, Ynys Môn yn cynorthwyo teuluoedd yn bennaf ar Ynys Môn a Gogledd Cymru, er ein bod yn mynd dros y wlad.

Mae Gofal Cartref Môn yn is-gwmni yn llwyr berchnogaeth y Bunbury Care Agency, mae’n aelod o’r Homecare Association ac yn aelod cysylltiol o SOLLA (Society of Later Life Advisers). SOLLA yw’r unig fudiad yn y DU a all gynnig ymgynghorwyr ariannol achrededig sy’n cynghori a helpu pobl gyda thalu am ofal i’r henoed.

SOLLA logo